Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
Diwygiadau arfaethedig i’r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC)
Cyflwynwyd gan:
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
Diwygiadau arfaethedig: rheoliad taliadau uniongyrchol
GWELLIANT 1
|
|
Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn pennu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
Erthygl 22.2 |
|
|
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
Member States which applied the single payment scheme as provided for in Regulation (EC) No 73/2009, may limit the calculation of the unit value of payment entitlements provided for in paragraph 1 to an amount corresponding to no less than 40 % of the national or regional ceiling established under Articles 19 or 20, after application of the linear reduction provided for in Article 23(1). |
Member States and Regions
|
_____________
Rheswm:
Mae hwn yn fater allweddol i’r Aelod-wladwriaethau a ffermwyr Ewropeaidd y bydd gofyn iddynt symud o daliadau hanesyddol i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd. Mae pryderon y bydd gosod gofyniad i dalu lleiafswm o 40% ar sail arwynebedd o fewn y flwyddyn gyntaf yn cael effaith sylweddol ar fusnesau amaethyddol o safbwynt ailddosbarthu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau gwaith modelu sy’n dangos mai dim ond 17% o fusnesau ffarm yng Nghymru fydd yn aros o fewn 10% o’u taliad presennol yn y broses o newid i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd. Byddai graddfa newid o’r fath mewn un flwyddyn felly’n creu cryn ansefydlogrwydd ac ansicrwydd yn y diwydiant.
Gw. 1 |
GWELLIANT 2
Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn pennu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
|
|
Erthygl 22.5
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
As of claim year 2019 at the latest, all payment entitlements in a Member State or, in case of application of Article 20, in a region, shall have a uniform unit value. |
As of seven
years from the passing of the legislative texts,
|
Rheswm
Mae pryderon difrifol y bydd oedi o ran gwneud penderfyniad terfynol ar y cynigion deddfwriaethol yn lleihau’r amser sydd ar gael i Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau gwblhau’r broses o newid, os caiff dyddiad penodol ei nodi yn y testun. Bydd cynnig cyfnod o amser pan fydd angen cwblhau’r broses o newid yn darparu hyblygrwydd wrth sicrhau bod y newid yn digwydd o fewn cyfnod o amser nad yw’n anfanteisio’r rhai sydd eisoes yn cael taliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd a newydd-ddyfodiaid sy’n ceisio cael mynediad i’r diwydiant.
_____________
GWELLIANT 3
Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn pennu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
|
|
Erthyglau 29-33
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
None currently. |
Farmers participating in existing agri-environment schemes should automatically qualify for greening payments where the agri-environment scheme delivers a minimum level of benefit approved by the European Commission. |
Rheswm
Mae nifer o ffermwyr ar draws yr Undeb eisoes yn cyflawni buddion amgylcheddol sylweddol drwy’r gwaith a gyflawnir ganddynt mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol. Er bod yr amcan o wneud y polisi amaethyddol cyffredin yn fwy gwyrdd yn ganmoladwy a dylid ei gefnogi, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau nad yw’r cynigion yn anfanteisio’n annheg y rhai sydd eisoes yn ymgymryd â gwaith amgylcheddol sylweddol neu’n darbwyllo eraill i beidio ag ymuno â chynlluniau amaeth-amgylcheddol o dan Golofn II.
Er ein bod yn gwybod y gallai hyn achosi rhai problemau o ran talu ddwywaith am yr un peth, darperir eithriad tebyg i ffermwyr organig ac mae’n bosibl y byddant yn dal i fanteisio ar gymorth ychwanegol o dan Golofn II.
Mae grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn bendant yn teimlo bod hwn yn opsiwn sy’n haeddu ystyriaeth bellach.
Er ein bod yn cydnabod nad yw pob cynllun amaeth-amgylcheddol ledled yr Undeb yn cyflawni’r un safonau o ran diogelu’r amgylchedd, bydd ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn caniatáu eithriad yn darparu dull diogelu digonol.
_____________
Am. 2 |
|
GWELLIANT 4
Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn pennu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
|
|
Erthygl 36.2
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
For the purposes of this Chapter, 'young farmers', shall mean: (a) natural persons who are setting up for the first time an agricultural holding as head of the holding, or who have already set up such a holding during the five years preceding the first submission of an application to the basic payment scheme as referred in Article 73(1) of Regulation (EU) No […] [HZR], and (b) who are less than 40 years of age at the moment of submitting the application referred to in point (a).
|
For the purposes of this Chapter, 'young farmers', shall mean: (a) natural persons who are setting up for the first time an agricultural holding as head of the holding, or who have already set up such a holding during the five years preceding the first submission of an application to the basic payment scheme as referred in Article 73(1) of Regulation (EU) No […] [HZR], and
|
Rheswm
Mae grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn pryderu y gallai’r cynllun [ffermwyr ifanc] fel y nodir ar hyn o bryd, anfanteisio newydd-ddyfodiaid dilys dros 40 oed. O ystyried yr angen ar draws yr Undeb i ddenu newydd-ddyfodiaid i’r sector ffermio, rydym yn teimlo y dylid canolbwyntio ar gefnogi pob newydd-ddyfodiad, ni waeth beth fo’i oed. Felly, rydym yn cynnig bod Erthygl 36.2 (b) yn cael ei dileu; mantais hyn fyddai ymestyn y cymorth sydd ar gael o ran sicrhau hawliau i’r holl newydd-ddyfodiaid ac nid y rhai sydd o dan 40 oed yn unig.
GWELLIANT 5
Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn pennu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
|
|
Erthygl 47
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
Inclusion of new sub-clause under Article 47 |
Member States and Regions may grant support to small farmers under the conditions laid down in this title. |
Rheswm
Er ein bod yn deall yr egwyddorion a’r rhesymeg y tu ôl i’r cynigion ar gyfer cynllun y ffermwyr bach, ni fydd yn briodol ar gyfer pob Aelod-wladwriaeth a Rhanbarth. Yn wir, mewn rhai Rhanbarthau, gallai’r cynnig hwn gael effaith anfwriadol a fyddai’n galluogi rhai nad ydynt yn ffermwyr go iawn i gael mynediad at y taliad sengl. Yn unol â hynny, rydym yn credu y dylai’r cynllun ffermwyr bach fod yn wirfoddol ac nid yn orfodol, a thrwy hynny’n galluogi Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau i gael yr hyblygrwydd i benderfynu a yw’r cynllun yn addas i’w gofynion lleol. Mae hyn yn unol â’r pryderon a godwyd gan y sector amaethyddiaeth yng Nghymru.
Gwelliannau arfaethedig: Rheoliad Datblygu Gwledig
GWELLIANT 1 Cynigion ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)
|
|
Erthygl 29
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
Inclusion new clause under Article 29. |
Member States must spend a minimum of 25% of the total contribution from the EAFRD to each rural development programme for climate change mitigation and adaptation and land management, through the agri-environment climate, organic farming and payments to areas facing natural or other specific constraints measures. |
Rheswm
Mae grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn nodi bod y rhaglith i’r testunau deddfwriaethol yn cynnwys cyfeiriad sy’n nodi y dylid gwario lleiafswm o 25% o gyllid datblygu gwledig ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol. Rydym yn cefnogi’r bwriad hwn, ond yn teimlo y dylid ei gynnwys yn y testunau deddfwriaethol i sicrhau cysondeb ar draws yr UE.
Gwelliannau arfaethedig: Rheoliad Llorweddol
GWELLIANT 1 Cynigion ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin.
|
|
Erthygl 92
Rheoliad drafft |
Gwelliant |
Article 91 shall apply to beneficiaries receiving direct payments under Regulation (EU) No xxx/xxx[DP], payments under Articles 44 and 45 of Regulation (EU) No xxx/xxx[sCMO] and the annual premia under Articles 22(1)(a) and (b), 29 to 32, 34 and 35 of Regulation (EU) No xxx/xxx[RD].
However, Article 91 shall not apply to beneficiaries participating in the small farmers scheme referred to in Title V of Regulation (EU) No xxx/xxx[DP] and to the beneficiaries receiving aid under Article 29(9) of Regulation (EU) No RD/xxx.
|
Article 91 shall apply to beneficiaries receiving direct payments under Regulation (EU) No xxx/xxx[DP], payments under Articles 44 and 45 of Regulation (EU) No xxx/xxx[sCMO] and the annual premia under Articles 22(1)(a) and (b), 29 to 32, 34 and 35 of Regulation (EU) No xxx/xxx[RD].
|
Rheswm
Mae grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi clywed gan y sector ffermio a sector yr amgylchedd am bryderon sylweddol na fydd y rhai sy’n hawlio o dan y cynllun [ffermwyr bach] yn ddarostyngedig i drawsgydymffurfio, yn enwedig gan nad oes trothwy ar gyfer maint y ffermydd sy’n cael gwneud cais. Gallai hyn danseilio ymdrechion yr Undeb i sicrhau y bydd y PAC yn cael ei wneud yn fwy gwyrdd.